Y Pwyllgor Menter a Busnes

SF-06

Ymchwiliad i gynigion deddfwriaethol drafft Cronfeydd Strwythurol yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer 2014-2020

 

Tystiolaeth gan Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA)

 

WCVA | Supporting Wales' third sector
 Cefnogi'r trydydd sector yng Nghymru 

 

 

 

 


Ymchwiliad Cynulliad Cenedlaethol Cymru i gynigion deddfwriaethol drafft Cronfeydd Strwythurol yr UE ar gyfer 2014-2020

 

Ymateb Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA)

Tachwedd 2011

 

Cefndir

Mae'r trydydd sector yn rhanddeiliad allweddol o ran llunio, monitro a chyflwyno rhaglenni'r Cronfeydd Strwythurol yng Nghymru:

 

 

 

 

Mae'r sector yn gysylltiedig â chyflwyno ystod eang o brosiectau'r Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd (ESF) a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF), gan gynnwys darparu dulliau gweithredu arbenigol, arloesol i gynorthwyo'r rhai mwyaf difreintiedig i oresgyn rhwystrau i gyflogaeth, ymgysylltu â phobl ifanc nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant (NEETs) a chodi eu dyheadau, cefnogi hyrwyddo merched ym maes cyflogaeth, symud ymlaen â'r agenda cynhwysiant digidol, codi rhwydweithiau llwybrau cerdded a beicio, adfer adeiladau cymunedol, a datblygu'r economi cymdeithasol yng Nghymru.

 

Yn hynny o beth, mae WCVA,  sef y corff ymbarél dros y trydydd sector yng Nghymru, yn croesawu'r cyfle i ymateb i ymchwiliad y Pwyllgor Menter a Busnes i'r cynigion deddfwriaethol drafft ar gyfer Cronfeydd Strwythurol yr UE 2014-2020. 

 

Mae'r Fforwm Ewropeaidd y trydydd sector (3-SEF) , a hwylusir gan dîm Ewropeaidd trydydd sector WCVA (3-SET), yn rhwydwaith o dros 660 o noddwyr prosiectau trydydd sector yr UE a mudiadau cyflawni contractau.  Mae'r ymateb hwn yn cyflwyno materion a chyfleoedd allweddol ar gyfer y trydydd sector o ran symud ymlaen i unrhyw raglenni dilynol y Cronfeydd Strwythurol yng Nghymru ar ôl 2013, ac mae'r egwyddorion a gynhwysir yn yr ymateb hwn wedi'u cadarnhau gan y rhwydwaith.

 

Ymatebion i gwestiynau a ofynnwyd gan Ymchwiliad y Pwyllgor Menter a Busnes

 

1.          Yr hyn y gallai cynigion y Comisiwn Ewropeaidd ei olygu i Gymru

 

1.1        Ffocws parhaus ar y rhanbarthau tlotaf

Mae WCVA yn croesawu ffocws y Comisiwn ar gefnogi rhanbarthau llai datblygedig yr UE (Gorllewin Cymru a'r Cymoedd) yn ogystal â chynigion ar gyfer trefniadau trosiannol teg ar gyfer rhanbarthau â Chynnyrch Mewnwladol Crynswth (GDP) o 75-90% cyfartaledd yr UE (Dwyrain Cymru).

 

1.2        Cysoni ffrydiau cyllido'r UE a chyfleoedd ar gyfer prosiectau sy'n cael cyllid o sawl cronfa

Mae cysoni'r rheolau ar gyfer ERDF, ERSF, y Gronfa Cydlyniant, Cronfa Amaethyddiaeth Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig (EAFRD) a Chronfa Forol a Physgodfeydd Ewrop (EMFF), yn rhoi cyfle sylweddol i Gymru fabwysiadu dull gweithredu integredig ar y lefel uchaf  o ran cynllunio'r rhaglenni newydd i sicrhau bod eu blaenoriaethau'n ategu a chadarnhau'i gilydd, ac fel y gellir cael buddsoddiad cytbwys ar draws ardaloedd trefol a gwledig. 

 

Er mwyn gwireddu hyn wrth weithredu rhaglenni, rhaid i Lywodraeth Cymru ddwyn ynghyd yr adrannau dan sylw mewn strwythur integredig i lunio'r rhaglenni, a bod â ffocws clir ar symleiddio'r broses o wneud ceisiadau  i sicrhau bod modd i noddwyr prosiectau ddatblygu a gweithredu prosiectau aml-gronfa, sy'n cwrdd ag anghenion datblygu economaidd yn y ffordd fwyaf cynhwysfawr a chyflawn bosibl. 

 

Er enghraifft ERDF adfywio/grymuso cymunedau/datblygu lleol yn targedu blaenoriaeth ar yr ardaloedd â'r angen mwyaf, gyda buddsoddiad cyfalaf EAFRD mewn cyfleusterau, yn cyd-fynd yn agos â blaenoriaethau cynhwysiant cymdeithasol a chyflogaeth ESF fyddai'r ffordd orau o ddatblygu cyfalaf cymdeithasol a grymuso cymunedau gyda sgiliau newydd a rhagolygon am gyflogaeth ac fel modd o hyrwyddo adfywio cymunedol.  Gallai hyn olygu mwy o effaith ar lefel prosiect a rhaglen.

 

Mae'r trydydd sector yn croesawu cynigion deddfwriaethol y Comisiwn Ewropeaidd i 5% o gyllid gael ei neilltuo ar gyfer prosiectau LEADER, ond yn credu y dylai hyn fod yn isafswm, gan roi ystyriaeth i neilltuo cyfran uwch o'r gyllideb ar gyfer gweithgareddau LEADER er mwyn hwyluso ymgysylltiad y gymuned ym maes datblygu gwledig. Heb y lefel uwch hwn o fuddsoddiad, caiff cyfleoedd ar gyfer prosiectau aml-gronfa i greu gwir effaith eu cyfyngu gan gyfyngiadau cyllidebol yn y Rhaglen Datblygu Gwledig (RDP).

 

 

 

1.3        Caffael v. grantiau

Mae WCVA yn croesawu cynigion y Comisiwn sy'n rhoi sgôp ar gyfer mwy o ddefnydd ar grantiau cyffredinol (global), cyfandaliadau o hyd at 50,000 Ewro (a ganiateir mewn theori, ond nas defnyddir yn ymarferol, dan Reoliadau Cenedlaethol Cymru ar Gymhwyso) a chostau wedi'u symleiddio (megis y fethodoleg dosrannu sefydlog) yn ogystal â chyfle i neilltuo ESF ar gyfer arloesedd cymdeithasol.  Gallai'r mecanweithiau hyn leihau'r baich gweinyddol yn sylweddol ar gyfer noddwyr a chyflwynwyr prosiectau, a sicrhau bod cyllid ar gael ynghynt i fudiadau bychain yn y trydydd sector sy'n gweithio ar lawr gwlad.

 

Credwn y dylai Llywodraeth Cymru annog a galluogi noddwyr prosiectau i ddefnyddio'r dull gweithredu mwyaf priodol, un ai caffael neu grantiau, yn dibynnu ar raddfa, lefel a math y gweithgarwch.  Er enghraifft, mae caffael ar raddfa fawr yn briodol ar gyfer cynlluniau ffyrdd a chludiant, ond mae grantiau'n fwy priodol ar gyfer ymyriadau ESF lleol ar raddfa fechan a luniwyd i ddarparu atebion wedi'u teilwra'n arbennig ar gyfer cyfranogwyr ag anghenion cymhleth.  

Astudiaeth achos: Cynllun Porth Ymgysylltu WCVA

 

Yn dilyn diwygiad i'r rhaglen ESF gyfredol ym mis Hydref 2010, caniatawyd i brosiectau ddyfarnu grantiau'n gystadleuol, yn hytrch na chontractau ar gyfer gweithgaredd.  Cymerodd WCVA y cyfle hwn a gyfer ein cynllun Porth Ymgysylltu, gan newid ym Mawrth 2011 o gaffael i ddull gweithredu'n seiliedig ar grantiau cystadleuol.

 

Bu i ni gadw'r un systemau a phrosesau, telerau ac amodau, a dim ond newid yr iaith a ddefnyddiwyd gennym a chaniatawyd i ni ddefnyddio dull gweithredu  mwy cefnogol o ran ateb ymholiadau, a oedd yn golygu y gallai'r prosesau asesu a thrafod ddechrau'n gynharach.  O'n profiad ni ein hunain gwelwyd cynnydd enfawr yn ymatebolrwydd mudiadau'r trydydd sector o ran cyfleoedd bidio.

 

·         Cynhaliwyd 44 o rowndiau tendro dan y dull  caffael, a olygodd ddyfarnu 354  o gontractau (cyfartaledd o 8 o gontractau'n cael eu dyfarnu ym mhob rownd);

·         Ar y llaw arall, dim ond 6 rownd a gynhaliwyd dan y dull  grantiau cystadleuol, gyda 138 o ddyfarniadau (cyfartaledd o 23 o grantiau wedi'u dyfarnu ym mhob rownd).

Yn nodweddiadol, cymerodd contractau bum gwaith mwy o amser i gyrraedd y pwynt lle roeddid yn cymeradwyo dyfarnu'r contract, oherwydd bod elusennau'n cymryd agwedd mwy gofalus tuag at gymryd rhan. Ar y dechrau, achosodd hyn oedi sylweddol o ran dyrannu'r arian i'r sector a gwario ar weithgarwch ar lawr gwlad.  Pe byddem wedi defnyddio'r broses grantiau cystadleuol o'r dechrau, byddai cyllid wedi'i ryddhau'n gyflymach, gan alluogi gwneud y mwyaf o gyfleoedd ar gyfer cyllid cyfatebol, a byddai'r prosesau wedi bod yn fwy effeithlon.  

 

 

 

 

 

 

 

 
 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 


1.4        Neilltuo cyllid ar gyfer hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol a mynd i'r afael â thlodi

Mae WCVA yn croesawu'n benodol y flaenoriaeth uchel a'r dyraniad cyllid (isafswm o 20% ESF, yn ogystal â blaenoriaeth buddsoddi ddewisol) ar gyfer 'hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol a mynd i'r afael â thlodi'.  I gyd-fynd â hyn rhaid cael fframwaith canlyniadau sy'n cydnabod nid yn unig swyddi, ond yn bwysicach y cynnydd tuag at gyflogaeth gan ganolbwyntio ar gyfalaf cymdeithasol, canlyniadau cadarnhaol, y pellter a deithir a chanlyniadau gwirfoddoli, yn hytrach na chanlyniadau caled swyddi.

 

Rhaid rhoi cymhellion i noddwyr prosiectau a mudiadau cyflwyno contractau sy'n gwobrwyo canlyniadau sy'n briodol ar gyfer y rhai mwyaf difreintiedig, er mwyn osgoi 'dewis a dethol' neu 'hufennu a pharcio''r rhai anoddaf i'w cynorthwyo er mwyn canolbwyntio ymyrraeth ar y rhai sydd agosaf at y farchnad lafur. 

 

Mae WCVA yn rhagweld y bydd y trydydd sector yn chwarae rôl allweddol o ran cyflwyno blaenoriaeth cynhwysiant cymdeithasol a gwrthdlodi yn y dyfodol, ac i hwyluso hyn, mae'n gofyn i'r Pwyllgor argymell bod Llywodraeth Cymru'n ystyried:

 

·         Cyflwyno rhaglen o grantiau cystadleuol neu gyffredinol i ariannu arloesedd cymdeithasol a gynhwyswyd yn y Rhaglen Weithredol gyda chyfradd uwch o ymyrraeth;

·         Lleihau'r baich gweinyddol ar brosiectau drwy ddefnyddio'r posibilrwydd o wneud cyfandaliadau hyd at 50,000 Ewro; a

·         Chreu cyfochredd agos rhwng blaenoriaethau ESF, ERDF ac EAFRD i hwyluso prosiectau aml-gronfa sy'n creu cyfalaf cymdeithasol lleol.

 

1.5        Offerynnau ariannol

Mae WCVA yn cefnogi bwriad y Comisiwn Ewropeaidd i gynyddu'r defnydd o fenthyciadau yn ogystal â grantiau fel dull o leihau dibyniaeth ar grantiau a chreu etifeddiaeth ar gyfer y rhaglenni.  Targedir yr offerynnau cyfredol yn bennaf ar y sectorau preifat a chyhoeddus (JESSICA a JEREMIE) ac nid ydynt yn briodol ar gyfer cwrdd ag anghenion cynyddol y trydydd sector.  Eithriad i hyn yw Cronfa Fuddsoddi Gymunedol (CIF) WCVA a ariennir drwy ERDF, a luniwyd yn benodol i gwrdd ag anghenion y trydydd sector, drwy gynnig cymysgedd o grantiau a benthyciadau gyda chynlluniau ad-dalu hyblyg.  Dylid ehangu'r defnydd o offerynnau ariannol arloesol o'r fath sy'n cwrdd ag anghenion penodol y sector yn y rhaglenni ar ôl 2013. Fodd bynnag, erys cwestiynau am logisteg ac ymarferoldeb cynyddu nifer addas o fenthyciadau i'r sector, a rhaid cydnabod nad yw benthyciadau'n briodol i bob un o fudiadau'r trydydd sector.

 

Mae WCVA yn gofyn i'r Pwyllgor argymell bod Llywodraeth Cymru'n sicrhau nid yn unig fynediad at offerynnau ariannol ond hefyd bod cyfres lawn o gymorth o ran buddsoddi, grantiau, cychwyn, busnes a chymorth deallusol ar gael i fudiadau blaengar yn y trydydd sector a mentrau cymdeithasol. Byddai'r effaith yn ddeublyg: cynyddu swyddi a ffyniant ond hefyd galluogi mudiadau'r trydydd sector i ddod yn fwy hunangynhaliol a llai dibynnol ar grantiau a rhoddion.

 

1.6        Y pwyslais trefol arfaethedig

Mae gan WCVA bryderon ynghylch y pwyslais arfaethedig ar ardaloedd trefol a beth y gallai hyn ei olygu mewn cyd-destun Cymreig, o bosibl o ran dull gweithredu strategol dinas-rhanbarth.  Argymhellir y dylid sicrhau'r hyblygrwydd mwyaf posibl yn nhermau'r diffiniad o 'ardaloedd trefol' i sicrhau bod modd i ni yng Nghymru gyfeirio Cronfeydd Strwythurol at yr ardaloedd lle ceir yr angen mwyaf o ran eu gallu i yrru twf economaidd yn y rhanbarth.  Os mabwysiedir dull gweithredu dinas-rhanbarth, mae WCVA yn ceisio sicrwydd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru y bydd y trydydd sector yn cael ei gynnwys wrth gynllunio a chyflwyno i sicrhau bod y gymuned yn ymwneud â'r prosesau ac yn cael budd o'r blaenoriaethau cyflwyno.

 

1.7        Dulliau datblygu lleol dan arweiniad y gymuned

Mae'r trydydd sector yn croesawu cynnwys  datblygiad cymunedol dan arweiniad y gymuned fel thema trosfwaol.  Mae teimlad cyffredinol yn bodoli bod rhaglenni 2007-13 wedi symud yn rhy bell oddi wrth y lefel leol a bod gan Amcan Un broffil lleol, perchnogaeth ac effaith canfyddedig gwell oherwydd lefel uchel yr ymwneud lleol yn y prosesau o ymgeisio am gyllid yn ogystal ag wrth weithredu prosiectau.  Bu hyn yn nodwedd allweddol a oedd ar goll o'r rhaglenni cyfredol ac os hwylusir cyfranogaeth cymunedau lleol yn effeithiol yn y rhaglenni newydd, er enghraifft drwy ganolfannau cymunedol, gallai hyn helpu i hyrwyddo ymrwymiad a pherchnogaeth i wella gweithrediad prosiectau ar lefel leol/ranbarthol.

 

1.8        Cydweithrediad trawswladol

Tanddefnyddiwyd yn sylweddol y cyfle i ymgymryd â gweithgarwch trawswladol o fewn cyd-destun prosiectau ESF ac ERDF, ac mae adborth gan noddwyr prosiectau trydydd sector yn nodi y gallai'r awdurdod rheoli wneud mwy i symleiddio  a hwyluso mynediad.  Argymhellir gwella statws cydweithrediad trawswladol drwy greu un ai  Flaenoriaethau ERDF ac ESF penodol ar gyfer cydweithrediad trawswladol neu, fel arall, llinyn o fewn pob Blaenoriaeth Rhaglen. Dylai Cymorth Technegol hefyd fod ar gael i randdeiliaid allanol i gynorthwyo noddwyr prosiectau i ddatblygu a gweithredu eu gweithgareddau trawswladol.

 

1.9        Datblygu potensial a Chymorth Technegol ar gyfer y trydydd sector

Ystyrir bod cyfeirio'n benodol at yr angen i hyrwyddo ymrwymiad y trydydd sector drwy sicrhau bod swm priodol o adnoddau ESF yn cael ei ddyrannu i ddatblygu potensial ar gyfer y sector, yn ogystal â'r posibilrwydd i'r sector sicrhau cyllid Cymorth Technegol ERDF, yn hanfodol ar gyfer hyrwyddo a chefnogi rôl y sector fel rhanddeiliad allweddol yn y rhaglenni. 

 

Mae tîm Ewropeaidd trydydd sector (3-SET) WCVA wedi sicrhau cyllid Cymorth Technegol drwy'r rhaglenni ESF ac ERDF yn y rownd gyfredol i ddarparu gwybodaeth, cyngor a hyfforddiant i fudiadau trydydd sector sy'n dymuno elwa ar Gronfeydd Strwythurol, yn ogystal ag i hyrwyddo gweithio mewn partneriaeth rhwng y sector cyhoeddus â'r trydydd sector.  Mae'r math hwn o gefnogaeth yn hanfodol i fod yn sylfaen i ymrwymiad y trydydd sector o ran trefniadau monitro rhaglenni yn ogystal ag fel noddwr prosiectau a chyflwynydd contractau. 

 

1.10     Etifeddiaeth rhaglenni 2014-2020

Dylid dechrau cynllunio yn awr ar gyfer y tirlun ar ôl 2020 pan fydd lefel yr ymyriadau Ewropeaidd yn debygol o fod yn sylweddol is. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid gwneud mwy i annog ac ysgogi cynaliadwyedd ariannol o fewn meysydd allweddol. Un rhwystr i brosiectau ddatblygu ffrydiau incwm, yn enwedig dan ESF, yw bod mudiadau'n cael eu cosbi am gynhyrchu incwm drwy gael gostyngiad mewn grant. I hyrwyddo ac annog cynaliadwyedd ariannol o ddifrif  gofynnir i Gynulliad Cenedlaethol Cymru annog Llywodraeth Cymru i sgopio cyfleoedd i wella hyblygrwydd o ran rheolau cyllido'r UE er mwyn ysgogi, yn hytrach na rhwystro, modelau ariannol cynaliadwy megis cyllid o fenthyciadau a chymynroddion.

 

2.          Beth ddylai blaenoriaethau Llywodraeth Cymru fod yn ei thrafodaethau i sicrhau canlyniad buddiol i Gymru

 

2.1 Pwyntiau trafod a argymhellir

Argymhellir bod Llywodraeth y DU yn cynnwys y pwyntiau canlynol fel blaenoriaethau ar gyfer trafod y rhaglenni newydd:

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

2.2 Cadw modelau cyflwyno sy'n gweithio

Mae WCVA yn annog y pwyllgor i gynghori WEFO i wneud adolygiad brys o brosiectau a gyllidir drwy raglenni 2007-13, i ganfod prosiectau a modelau cyflwyno y gellid eu haddasu i helpu i gyflwyno ar rai o'r blaenoriaethau ar gyfer rhaglenni i'r dyfodol.  Yr oedd llawer o brosiectau'n araf yn cychwyn dan y rhaglenni cyfredol oherwydd cymhlethdod creu gweithdrefnau a phrosesau newydd ar gyfer caffael yn ogystal â gwella sgiliau gweithwyr prosiect i reoli a chyflwyno prosiectau mewn awyrgylch o reolaeth dynn o ran awdit a rheoli.

 

Mae'r amcanion thematig a'r blaenoriaethau buddsoddi a gynhwysir yng nghynigion deddfwriaethol drafft y Comisiwn fwy neu lai'r un fath â blaenoriaethau'r rhaglen bresennol.  Er mwyn hwyluso trosglwyddiad didrafferth i'r rhaglenni newydd, mae'n hanfodol bod WEFO yn ceisio cadw a gweithio gyda noddwyr prosiectau sydd wedi adeiladu seilwaith, prosesau ac arbenigedd soffistigedig i brosiectau yn ystod y rhaglenni cyfredol i sicrhau nad yw'r cyfalaf deallusol hwn yn cael ei golli yn y tymor byr, ddim ond i gael ei ail-adeiladu eto gydag oedi mawr (diangen) ar ddechrau'r rhaglenni nesaf.

 

3.          Sut y gall Cymru sicrhau bod ei barn yn goleuo'r broses negodi.

 

3.1 Contract Partneriaeth y DU gyda'r Comisiwn Ewropeaidd

Mae'r cynigion deddfwriaethol draft yn datgan “Ar gyfer y Contract Partneriaeth a phob rhaglen fel ei gilydd, dylai Aelod Wladwriaeth drefnu partneriaeth gyda chynrychiolwyr  awdurdodau cyhoeddus cymwys rhanbarthol, lleol, trefol ac eraill, partneriaid economaidd a chymdeithasol, a chyrff yn cynrychioli cymdeithas sifil, gan gynnwys partneriaid amgylcheddol, mudiadau anllywodraethol a chyrff sy'n gyfrifol am hyrwyddo cydraddoldeb a dim gwahaniaethu”. 

 

Hoffai WCVA ddatgan diddordeb mewn bod yn rhan o unrhyw drefniadau Partneriaeth ar lefel y DU, yn ogystal ag unrhyw drefniadau datganoledig.  Byddai hyn yn helpu i hyrwyddo perchnogaeth y trydydd sector ar y rhaglenni, a galluogi WCVA i gyfrannu ei brofiad sylweddol o ran llunio, monitro a chyflwyno Cronfeydd Strwythurol yng Nghymru i'r trefniadau Partneriaeth, a gweithredu fel swyddogaeth fonitro o ran ymrwymiad y trydydd sector yng nghyswllt cyflwyno rhaglenni. 

 

Tanlinellir diddordeb WCVA mewn bod yn rhan o Bartneriaeth Contract y DU gan brofiad sylweddol gyda Chronfeydd Strwythurol ac mae'n cynnwys:

 

·         Aelodaeth o Bwyllgor Monitro Rhaglenni Cymru Gyfan a Phwyllgor Monitro Rhaglenni'r Cynllun Datblygu Gwledig (2000-2006 a 2007-2013);

·         Ymwneud yn weithredol â gweithgorau ar gyfer rhaglenni'r Cronfeydd Strwythurol (2000-2006, 2007-2012);

·         Darparu cynrychiolaeth y trydydd sector ar Fforwm Partneriaeth Rhaglenni Ewropeaidd ar ôl 2013 a ffrydiau gwaith arbenigol;

·         Rheoli tîm Ewropeaidd y trydydd sector (3-SET) a ariennir yn rhannol drwy Gymorth Technegol fel rhan o rwydwaith y Tîm Ewropeaidd Arbenigol (SET);

·         Noddi chwe phrosiect strategol yn rhaglenni 2000-2006, yn ogystal â rheoli portffolio o bump o brosiectau ESF ac ERDF gwerth £66m yn y rhaglenni cyfredol; a

·         Chwarae rhan allweddol wrth gyflwyno prosiectau strategol sy'n anelu at wneud Cronfeydd Strwythurol yn fwy hygyrch i fudiadau'r trydydd sector.

 

3.2  Mewnbwn Cymreig i sefyllfa negodi Llywodraeth y DU

Dylid rhoi cyfle i randdeiliaid Cymreig ryngweithio â swyddogion Llywodraeth y DU a fydd yn arwain trafodaethau gyda'r Comisiwn Ewropeaidd, er mwyn sicrhau bod ein safbwynt Cymreig unigryw yn cael ei gynnwys yn sefyllfa gyffredinol y DU.  Caiff sefyllfaoedd negodi Cymru a'r DU eu cryfhau drwy gynnwys arbenigwyr o ystod eang o sectorau.       

 

JS

10.11.11

 

 

WCVA Helpdesk / Lein Gymorth 0800 2888 329 | help@wcva.org.uk | www.wcva.org.uk
facebook.com/walescva | twitter.com/walescva

http://e2ma.net/userdata/1350851/images/templates/ERDFPortRGB.JPG

http://e2ma.net/userdata/1350851/images/templates/ESFPortRGB.JPG